Bydd Sefydliad y Merched yn cynnal trafodaeth yn y Sioe Frenhinol ar rôl archfarchnadoedd i leihau gwastraff bwyd.
Daw’r drafodaeth wedi i’r WI lansio ei adroddiad Wasted Opportunities, oedd yn canfod bod tueddiadau archfarchnadoedd yn cyfrannu at wastraff bwyd.
Yn ôl yr adroddiad, mae hynny drwy arwain cwsmeriaid i brynu mwy o fwyd nag sydd ei angen, a rhoi gwybodaeth ar y pecyn sy’n gadael cwsmeriaid yn ansicr am ba mor hir mae’r cynnyrch yn parhau’n ddiogel i’w fwyta.
Mae’r sefydliad bellach yn galw ar siopau i wneud mwy i leihau gwastraff bwyd.
“Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud i sicrhau cyflenwad bwyd cynaliadwy a mynd i’r afael â gwastraff bwyd ers ymdrechion arloesol Sefydliad y Merched… fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud,” meddai Mair Stephens, cadeirydd y sefydliad yng Nghymru.
“Mae ein hymchwil wedi nodi dylanwad pwerus archfarchnadoedd wrth ddylanwadu ar gynhyrchu a phrynu bwyd. Hoffem weld pob siop yn gwneud mwy i arwain y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ar draws y gadwyn gyflenwi.”
Y panel
Bydd y panel trafod yn cynnwys Ann Jones, Cadeirydd Pwyllgor Materion Cyhoeddus Sefydliad y Merched, John Davies, Is-lywydd NFU Cymru, Alec Brown, Pennaeth Cysylltiadau Rhanddeiliaid Tesco a Hugh Jones, Rheolwr Rhanbarthol Atal Gwastraff Bwyd, WRAP Cymru.
Mae disgwyl i’r drafodaeth ddigwydd dydd Mawrth, 25 Gorffennaf am 12:30 y prynhawn ym mhabell NFU Mutual yn y Sioe Frenhinol.