Bydd pobol yn rhoi cyngor iechyd a lles i bobol ifanc ym Mhentref Ieuenctid y Sioe Frenhinol yr wythnos nesaf.
Mae tîm o Gyngor Powys a sefydliadau lleol eraill yn cynnig cyngor ar iechyd rhyw, cwnsela, lles meddyliol, cyngor ar gyffuriau ac alcohol ac yn darparu eli haul a dŵr i ymwelwyr ifanc y sioe.
Ac mae disgwyl i Heddlu Dyfed Powys gynnal profion anadl i fesur lefelau alcohol er mwyn atal pobol rhag yfed a gyrru. Cafodd 400 o brofion eu cynnal y llynedd.
Yn ôl y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Powys ar faterion Gwasanaethau Ieuenctid, dyma’r nawfed tro iddyn nhw gynnig cymorth yn y sioe a llynedd, bu dros 5,700 o bobol ifanc yn defnyddio eu gwasanaethau.
“Mae hwn yn gyfraniad positif dros ben tuag at gynorthwyo pobl ifanc ar bersbectif Cymru gyfan, ac mae’n dangos ymroddiad cymorth Powys,” meddai.
“Mae’r dull cydweithredol yma’n enghraifft wych o asiantaethau arbenigol yn cydweithio gyda’i gilydd i gynorthwyo gydag anghenion iechyd a lles pobl ifanc.
“Er bod y Pentref Ieuenctid yn lle sy’n hyrwyddo perthnasau cymdeithasol cadarnhaol, mae’n dda cael gwybod y bydd yr asiantaethau hyn ar gael i gynnig unrhyw gymorth ychwanegol yn gyfrinachol.”
Dyma fanylion pryd bydd y tîm Iechyd a Lles yn y Pentref Ieuenctid:
- Dydd Sul: 2yp – 9yh
- Rhwng dydd Llun a dydd Mercher: 8yb – 10yh
- Dydd Iau: 8am – 4pm