Y Cynghorydd Vicky Perfect
Mae angen “dathlu” castell sy’n enwog am ei ran yn hanes concro’r Cymry a’u cadw i lawr, yn ôl un o gynghorwyr Plaid Lafur yn Sir y Fflint.
Daw sylwadau’r Cynghorydd Vicky Perfect yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru heddiw i wario £630,000 ar Gastell y Fflint
Bydd £395,000 o’r buddsoddiad yn cael ei wario ar gerflun y ‘Cylch haearn’ – enw sydd yn cyfeirio at gyfres o gestyll cafodd eu hadeiladu gan y brenin, Edward y 1af, i ormesu’r Cymry.
Mae Vicky Perfect wedi cyfrannu at ofalu at y castell am 34 blynedd, ac yn croesawu’r buddsoddiad fel “cydnabyddiaeth o gyfraniad” y castell i’n hanes.
“Yn fy marn i, dw i’n Gymraes … a dw i’n gwybod mai hwn yw’r castell Seisnig cyntaf ar bridd Cymreig … ond dylwn ei ddathlu yn enw’r crefftwyr wnaeth adeiladu’r castell,” meddai’r Cynghorydd Vicky Perfect sy’n cynrychioli ward Trelawnyd ar Gyngor Sir y Fflint.
“Mae e werth ei ddathlu. Pa adeilad arall gan eithrio palasau Brenhinol sydd wedi sefyll mor hir? Tua 700 o flynyddoedd. Mae’n arwydd o sgil y crefftwyr wnaeth ei hadeiladu.
“Un peth am Gastell y Fflint yw cafodd ei adeiladu i ormesu’r Cymry, ond o fewn can mlynedd cyfrannodd at ddiorseddu brenin Seisnig – cafodd Richard yr ail ei ddiorseddu yng Nghastell y Fflint – felly llwyddodd y castell i ddial ar y frenhiniaeth.”
Grisiau troellog
Bydd £217,000 yn cael ei wario ar risiau dur troellog yn nhŵr gogledd dwyreiniol y castell. Tipyn o bres am set o risiau? Na medd Vicky Perfect.
“Mae’r [castell] ar lwybr yr arfordir, bydd yn dod â phobol a thwristiaeth i Fflint,” meddai. “Yn rhannol oherwydd byddan nhw eisiau gweld y castell trwy gerdded ar hyd eu muriau, a dringo fyny’r grisiau troellog … mae’n cyfuno’r hen a’r newydd.”