Yr wythnos hon mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu pryderon y bydd prinder milfeddygon yng Nghymru yn sgîl Brexit.
“Mae cyflenwad y milfeddygon sy’n graddio bob blwyddyn yng ngwledydd Prydain yn annigonol a does dim digon i’w cael i lenwi’r swyddi i gyd,” meddai Ifan Lloyd sy’n bartner mewn cwmni yn Abertawe sy’n cyflogi 70 o weithwyr mewn chwech syrjeri.
A’r rhybudd yw y gallai’r broblem fynd yn waeth os bydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Ifan Lloyd yn dweud y bydd angen mwy o filfeddygon, nid llai, ac y gallai Brexit arwain at fwy o beryg gan glefydau newydd.
Gan ddyfynnu o gofrestr Coleg Brenhinol y Milfeddygon, mae Ifan Lloyd yn dweud bod bron i 1,200 o filfeddygon yn gweithio yng Nghymru a bod 20% ohonyn nhw yn dod o wledydd tramor sy’n perthyn i’r Undeb Ewropeaidd.
“Ar draws gwledydd Prydain yn gyfan gwbl mae tua 50% o’r milfeddygon sy’n cael eu cofrestru o’r newydd bob blwyddyn yn dod o’r tu allan, gyda’r rhan fwya’ o’r Undeb Ewropeaidd.”
Milfeddygon mewn lladd-dai
Mewn lladd-dai mae milfeddygon yn bresennol i archwilio’r cig rhag haint a rhoi tystysgrif gyda stamp arno sy’n datgan fod y cig yn ffit i’w fwyta ac yn saff i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd.
Ac yn ôl Ifan Lloyd, mae “milfeddygon sy’n gweithio mewn lladd-dai a gweithfeydd prosesu bwyd ac ati, mae’r ganran fwya’ ohonyn nhw’n dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd…
“Mae rôl hanfodol gan filfeddygon ar iechyd y cyhoedd a diogelwch y bwyd rydych chi a fi yn ei fwyta ac sy’n dod o anifeiliaid.”
Mwy gan y milfeddyg yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.