Bu farw Jeffrey Plevey, 55, ar ôl i adeilad gwympo brynhawn ddoe
Mae’r heddlu wedi enwi’r dyn a fu farw ar ôl i adeilad hen eglwys yn ardal Sblot, Caerdydd ddymchwelyd.
Roedd Jeffrey Plevey, 55, wedi bod yn gweithio ar yr adeilad pan gwympodd am oddeutu 2.50yp ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 18).
Cafodd dau o bobol eraill fan anafiadau.
Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu: “Rydym yn drist o gyhoeddi marwolaeth Jeff, aelod annwyl o’n teulu oedd yn cael ei drysori.
“Roedd e’n ddyn oedd yn gweithio’n galed ac yng nghanol unrhyw fath o aduniad, ac roedd tipyn ohonyn nhw.
“Fe fydd colled fawr ar ei ôl e ymhlith ei deulu a’i ffrindiau.”
Mae’r heddlu a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad, ac mae gweithwyr yn ceisio diogelu’r safle ar hyn o bryd.
Mae’r heddlu wedi talu teyrnged i Jeffrey Plevey a’r gwasanaethau brys fu’n ceisio dod o hyd iddo.
Cadarnhaodd Heddlu De Cymru eu bod nhw’n cydweithio â’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch. Daw’r ymchwiliad flwyddyn ar ôl i Gyngor Caerdydd rybuddio fod yr adeilad yn beryglus ac y gallai ddymchwel ar unrhyw adeg, gan achosi difrod i’r cledrau.
Cafodd yr arolwg ei gynnal ar ran Network Rail fel rhan o waith atgyweirio’r rheilffordd sy’n cysylltu Abertawe a Llundain.
Mae’r Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty wedi dweud bod “rhaid gofyn cwestiynau” am y sefyllfa.