Daeth cadarnhad heddiw na fydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’r cynllun i sefydlu Ysgol Feddygol yng ngogledd Cymru.
Mae Aelod Cynulliad Arfon, Siân Gwenllïan, wedi disgrifio’r cyhoeddiad fel “bradychiad i bobol Bangor, Arfon a’r gogledd.”
“Mae’r angen am ysgol feddygol ym Mangor yn amlwg, ac mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cydnabod hyn,” meddai Siân Gwenllïan gan gyhuddo’r Llywodraeth o gadw’r newyddion tan ddiwrnod olaf busnes y llywodraeth.
Ychwanegodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC fod hwn yn “gam difrifol yn ôl” gan gyhuddo’r Llywodraeth o fod “heb uchelgais.”
“Mae angen myfyrwyr yn y gogledd, mae’r Gwasanaeth Iechyd eu hangen, ac mae’n rhaid inni gael y bêl i droi,” ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.
“Cydweithio”
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, ei fod wedi derbyn cyngor nad sy’n cefnogi’r achos i greu ysgol feddygol yn syth yng ngogledd Cymru.
Er hyn, dywedodd fod achos i wella’r ddarpariaeth feddygol yn yr ardal gan alw ar brifysgolion Caerdydd, Bangor ac Abertawe i gydweithio i wella addysg a hyfforddiant meddygol.