Sean Lee Kelly (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu’r De, sy’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 37 oed yng Nghaerdydd, wedi arestio ail ddyn.

Cafodd Sean Lee Kelly, 37, ei anafu’n ddifrifol yn dilyn ymosodiad difrifol am tua 3.30yb ar Stryd Theodora, Adamsdown ar 13 Gorffennaf.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd a bu farw ar ddydd Sul, 16 Gorffennaf.

Cafodd dyn 45 oed ei arestio ddydd Llun ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa ynghyd â dyn 18 oed.

“Anhygoel”

Mewn datganiad mae teulu Sean Lee Kelly wedi talu teyrnged i “fab, tad, brawd ac ewythr anhygoel” oedd “yn caru bywyd.”

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus ar strydoedd Stryd Pearl, Stryd Theodora neu ardal Broadway y ddinas yn ystod oriau mân fore Iau, 13 Gorffennaf  i gysylltu â nhw.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio  101 gan ddyfynnu cyfeirnod *271618 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.