Llun: S4C
Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi canmol y “cynnydd trawiadol” sydd wedi bod yn nifer y gwylwyr sy’n gwylio deunydd S4C ar y we ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Daw ei sylwadau wrth i’r sianel gyflwyno adroddiad blynyddol 2016/2017 – a hynny wrth ddisgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am Adolygiad Annibynnol o’r sianel gafodd ei ohirio tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
“Un o’n gobeithion mawr o ganlyniad i’r adolygiad yw y ceir cytundeb ynglŷn â pha broses y bydd y Llywodraeth yn ei dilyn wrth bennu cyllid digonol ar gyfer S4C,” meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C.
“Rydym hefyd yn pwysleisio fod angen diffinio’r gwasanaeth yn nhermau darparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau ym mha bynnag ffurf sydd yn briodol, tra ar yr un pryd yn dal i ddarparu gwasanaeth teledu traddodiadol,” ychwanegodd.
‘Patrymau newydd’
Mae’r adolygiad yn tynnu sylw at “batrymau newydd” wrth i S4C ddatblygu cynnwys ar-lein yn ogystal â sianel o’r enw Hansh sy’n cynnig deunydd amlgyfrwng ar y we.
Yn ôl yr adroddiad, cafwyd mwy 18 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys S4C ar Facebook, Twitter ac YouTube.
Yn ogystal, mae’r adroddiad yn amlygu cynnydd o 7% nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy’n gwylio yn ystod wythnos gyffredin.
“Roedd hi’n galonogol gweld cynnydd yn nifer y gwylwyr yng Nghymru sy’n troi i mewn i’r sianel bob wythnos, ac yn arbennig felly’r nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n gwneud hynny,” meddai Huw Jones.
Mae’r adroddiad yn cyfeirio at achlysuron penodol wnaeth ddenu gwylwyr gan gynnwys darlledu gemau Cymru yn Ewro 2016 ynghyd â chyngerdd Cantata Memoria i nodi hanner canrif ers trychineb Aberfan.
Serch hynny, mae’r adroddiad yn dangos bod nifer y sesiynau gwylio ar S4C Arlein a’r iPlayer wedi gostwng i 7.6 miliwn yn 2016/17 o 8.4 miliwn yn 2015/16.
“Mae ‘na un mesurydd sydd yn codi cwestiynau, ac yn galw am ragor o ddadansoddi – sef y cwymp yn y niferoedd sy’n gwylio cynnwys S4C ar y BBC iPlayer. Mi fydd angen i waith barhau ar hynny – ond mae mantais ein presenoldeb ar yr iPlayer yn glir o hyd,” meddai Prif Weithredwr y Sianel, Ian Jones yn yr adroddiad.
‘Nodyn cywir’
“Mae ein gweithgareddau gyda chyfryngau cymdeithasol wedi galluogi niferoedd cynyddol o bobol i ymwneud â chynnwys,” meddai Ian Jones, fydd yn gadael ym mis Medi ac yn cael ei olynu gan Owen Evans.
“Pan mae fideo yn cael ei chwarae bron 200,000 o weithiau, fel y digwyddodd yn achos ein fideo o chwaraewyr pêl-droed Cymru yn dweud diolch, mae’n rhaid bod nodyn cywir yn cael ei daro,” ychwanegodd.
“Heriau”
Yn ei adroddiad olaf cyn gadael ei swydd, dywedodd Ian Jones: “Yr heriau mwyaf i fi fel Prif Weithredwr dros y cyfnod oedd sicrhau ein bod yn cyrraedd y gynulleidfa ar y llwyfannau perthnasol ble bynnag y maen nhw, sicrhau’r adnoddau digonol i wneud hynny, wynebu’r heriau creadigol yn hyderus mewn ffordd feiddgar, gwneud mwy gyda llai o
arian, ac apelio at gynulleidfaoedd sy’n llai tebygol o wylio teledu bellach.
“Dwi’n mawr obeithio y bydd fy olynydd yn cael canolbwyntio llawer mwy yn ystod ei gyfnod ar hanfodion y gwasanaeth a sut i ddarparu’r rheini orau yn hytrach na theimlo’r angen i gyfiawnhau bodolaeth yr unig sianel
deledu Cymraeg. Dymunaf bob lwc iddo yn ei waith. Mae’n galondid mawr i mi fy mod i’n gadael S4C yn nwylo unigolyn sydd mor uchel ei barch a sydd â record gref o gyflawni.”