Brenhines Lloegr
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru wedi dweud sut yr oedd wedi “dychryn” gydag ymateb pobol i’w ymweliad â Brenhines Lloegr yn 2013.

Roedd y Prifardd Ifor ap Glyn yn sgwrsio mewn sesiwn yn ystod Gŵyl Arall yng Nghaernarfon y penwythnos diwethaf.

Bu’n trafod cyfrol newydd ar ganeuon gwleidyddol, Rhywbeth i’w Ddweud. Y mae wedi sgrifennu gwerthfawrogiad o’r gân ‘Tân yn Llŷn’ gan Plethyn ar gyfer y gyfrol.

Roedd wedi mynd i Balas Buckingham ar Dachwedd 19, 2013 i ddathlu barddoniaeth gyfoes Brydeinig, gyda’r Archdderwydd Christine James a Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

“Ro’n i wedi sgwario hwnna efo fy nghydwybod trwy ddweud fy mod yn ymweld â foreign dignitary yn ei thŷ hi yn Llundain. A pham lai?” meddai Ifor ap Glyn wrth gynulleidfa Gŵyl Arall brynhawn Sul. “Mi wnaeth yr ymateb i’r union ddigwyddiad yna fy synnu i. Mae symbolau yn bethau cryf ond mi wnaeth fy nychryn i braidd… Ydi’r Cwîn mor bwysig a hynny? Onid yw’r iaith yn bwysicach na’r Cwîn?

“Fel mae’r llyfr yma yn dynodi… mae ystyriaeth llawer iawn pwysicach na’r Cwîn a iaith, pethau fel rhoi bwyd ar y bwrdd.”

Nôl yn 2013 fe anfonodd Ifor ap Glyn neges fer at gylchgrawn Golwg yn nodi: “Ces i wahoddiad i fynd i dŷ crand yn Llundain. Wnes i ysgwyd llaw â’r hen ledi sy biau’r lle. A dw i heb molchi ers hynny.”

Roedd yr Archdderwydd ar y pryd, Christine James, hefyd wedi mynd i weld Brenhines Lloegr ac yn amddifyn y penderfyniad gan bod Elizabeth yr Ail yn aelod o’r Orsedd.

Dim cerdd ben-blwydd i’r Cwîn

Cafodd Ifor ap Glyn ei benodi yn Fardd Cenedlaethol Cymru, yn olynu Gillian Clarke, ar Fawrth 1, 2016. Dywedodd ei fod wedi synnu bod disgwyl iddo nodi pen-blwydd y Frenhines yn 90 oed yn ei gerdd gyntaf, yn ogystal â nodi agor y Senedd.

“Wow, hold on rŵan, wnes i ddim cytuno i wneud hynny,” meddai Ifor ap Glyn. “‘Ond mi aethoch chi i’r palas i’w gweld hi hefyd!’ Wel, do. Dw i’n gweld dipyn bach o wahaniaeth.

“Ro’n i wedi sgwario hwnna efo fy nghydwybod trwy ddweud fy mod yn ymweld â foreign dignitary yn ei thŷ hi yn Llundain. A pham lai?

“Faswn i’n dweud bod mwy o symboliaeth yn gysylltiedig â derbyn ymweliad gan frenhines gwlad arall – fel y byddai llawer iawn ohonon ni yn y gynulleidfa yma yn licio meddwl amdani hi; mwy o symboliaeth mewn bod yn rhan o ddigwyddiad lle mae hi’n dod i’n gwlad ni.

“Wedi dweud hynny, pwy ydw i i ddweud dw i’n well? Mae yna aelodau seneddol yn y gynulleidfa, pwy ydw i i ddweud, ‘dw i’n well na nhw’ a dweud, ‘na, dw i am gadw fy hun yn bur’?

“Yn y diwedd doedd dim raid i fi gyfarch y Cwîn, a phr’un bynnag ro’n i ar y ffordd i weld Cymru yn chwarae yn Ffrainc.”

Mwy o Gŵyl Arall yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.

  • Rhywbeth i’w Ddweud: Deg o ganeuon gwleidyddol 1979-2016 (Cyhoeddiadau Barddas, golygyddion Elis Dafydd a Marged Tudur)