Prif adeilad Sain Ffagan
Mae cynlluniau i “drawsnewid” amgueddfa Sain Ffagan bron yn barod yn dilyn tair blynedd o waith a buddsoddiad gwerth £30m.
Daw £11.55m o Gronfa Treftadaeth y Loteri – y grant mwyaf maen nhw wedi rhoi i Gymru erioed.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7m i’r prosiect a’r gweddill wedi dod gan Amgueddfa Cymru a rhoddion eraill.
Heddiw, bydd rhan fawr o’r cynlluniau yn cael eu dadorchuddio – gyda newidiadau mawr i’r prif adeilad a Gweithdy newydd sy’n canolbwyntio ar hanes Cymru o greu a gwneud pethau â llaw.
“Un o’r pethau r’yn ni wedi ceisio gwneud drwy’r prosiect yw edrych ar beth yw pwrpas amgueddfa ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,” meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Cymru.
“Mae’n gyfle i drawsnewid Sain Ffagan i mewn i un o’r amgueddfeydd hanes gorau yn y byd.
“R’yn ni wedi bod yn edrych yn ôl eitha’ tipyn ar weledigaeth wreiddiol Iorwerth Peate ar gyfer yr amgueddfa.
“Un o’r pethau roedd Iorwerth Peate yn ei ddweud oedd bod hi’n bwysig iawn bod amgueddfeydd yn esblygu a bod nhw ddim yn statig, bod nhw ddim yn mynd yn bethau amherthnasol i’r gymdeithas maen nhw’n ei gwasanaethu.”
Dechreuodd y gwaith yn 2014, a gyda’r amgueddfa wedi aros ar agor dros y cyfnod datblygu, mae disgwyl i’r holl waith gael ei gwblhau erbyn mis Hydref 2018.
Anghenion gwahanol
Yn ôl Nia Williams, does yna ddim buddsoddiad mawr wedi bod yn Sain Ffagan ers y 1970au ac roedd angen gwneud gwaith i ymateb i “anghenion gwahanol ymwelwyr” erbyn hyn.
“Mae anghenion ein hymwelwyr ni wedi newid ers y 70au. Ry’n ni nawr yn amgueddfa rhad ac am ddim i bobl Cymru ac mae hwnna wedi golygu bod tipyn mwy o ymwelwyr yn dod nag oedd yn dod yn wreiddiol pan grëwyd yr adeilad hwnnw.
“Allan yn yr amgueddfa awyr agored, ry’n ni wedi creu adeilad newydd o’r enw Gweithdy.
“Pwrpas y Gweithdy yw dathlu sgiliau pobl, a gallu creadigol pobl ar hyd y canrifoedd i greu gwrthrychau gyda’u llaw. Mae’r casgliadau fydd ar ddangos yn y Gweithdy yn dehongli’r sgiliau hyn.
“R’yn ni’n mynd i herio pawb sy’n dod i’r Gweithdy bod gwneuthurwr ym mhawb a gall pawb troi ei llaw at greu.
“Felly yn yr oriel ei hunan, pan fydd honno’n agor ym mis Hydref y flwyddyn nesa’, bydd yna gyfle i bobol gymryd rhan a thrio eu llaw ar greu pethau.”