Coldplay (Llun: Wikipedia)
Daeth cyngerdd Coldplay i ben yn Stadiwm Principality neithiwr gyda fersiwn arbennig o Hen Wlad Fy Nhadau.
Hon oedd y noson gyntaf o ddwy y mae’r band yn eu cynnal yn y brifddinas.
Roedden nhw eisoes wedi gwibio trwy gyfres o’u caneuon mwyaf pan gyhoeddodd y prif leisydd, Chris Martin fod gan y band “ffafr” i ofyn i’r gynulleidfa.
“Oherwydd ein bod ni yma yng Nghymru, oherwydd ein bod ni yn Stadiwm y Mileniwm, mae gyda ni ffafr i ofyn i chi.
“Ry’n ni wedi canu 22 o ganeuon i chi. Tybed a fyddech chi’n canu un i ni. Efallai y gallen ni orffen drwy ganu un gân wych wnaethon ni ddim ei hysgrifennu.”
Jonny Buckland
Cafodd Jonny Buckland ei eni yn Llundain cyn symud gyda’i deulu i Bant-y-mwyn yn Sir y Fflint yn bedair oed.
Aeth i Ysgol y Waun ac Ysgol Alun yn Yr Wyddgrug, cyn dychwelyd i Lundain a mynd yn fyfyriwr i Goleg y Brifysgol Llundain (UCL), lle gwnaeth e gyfarfod ag aelodau eraill y band.
Yng Nghymru y chwaraeodd e’r gitâr am y tro cyntaf yn 11 oed.
Ymateb
Mae cryn ymateb wedi bod i’r perfformiad ar Twitter:
#Llongyfarchiadau i’n myfyrwraig, Elin Hughes @PerfformioYDDS ar berfformiad gwych o’r Anthem Genedlaethol gyda #Coldplay heno ???? #balch???? https://t.co/cOynRHpNMY
— Drindod Dewi Sant (@drindoddewisant) July 11, 2017
@coldplay yn gorffen gyda Hen Wlad fy Nhadau? Finishing with Land of my fathers?
— G. Williams (@Gwyn_Dr) July 11, 2017
Hen wlad fy nhadau’n atsain o’r sdadiwm. Cover version da gan Coldplay chwara teg! #conffiwsd
— Elliw Iwan (@elliwiw) July 11, 2017
Ware teg i @coldplay #CymruAmBythhttps://t.co/GRtkYcUETQ
— Jonathan Edwards (@JonathanPlaid) July 12, 2017