Mae Gŵyl Fwyd Aberaeron yn dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed y penwythnos hwn.
Fel rhan o’r dathliadau, bydd yr ŵyl yn cofio taith criw o bobol yr ardal i Ohio yn 1818.
Gan dynnu ar straeon eu disgynyddion, fe fydd llyfr yn adrodd eu hanesion yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach eleni.
Bwriad gwreiddiol yr ŵyl yn 1997 oedd rhoi hwb i fwyd môr a chodi proffil pysgod, yn ôl y trefnwyr.
Mae’n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y digwyddiad sy’n denu miloedd o bobol bob blwyddyn.