Ysgol Uwchradd Y Rhyl (LLunCyngor Sir Dinbych)
Mae’r Llywodraeth wedi dweud nad oes angen cau’r rhan fwya’ o ysgolion oherwydd pryderon am ddeunydd adeiladu wedi tân Tŵr Grenfell yn Llundain.
Dim ond ysgolion a cholegau addysg bellach sy’n cynnig llety a rhai gydag adeiladau tros tua 58 troedfedd – 18 metr – sydd angen eu cau, meddai’r Ysgrifennydd tros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Roedd y Llywodraeth wedi anfon cyfarwyddyd at bob awdurdod lleol, meddai, ar ôl cyhoeddiad gan Gyngor Sir Ddinbych eu bod yn cau Ysgol Uwchradd newydd Y Rhyl ddoe a heddiw.
Fe ddywedodd hefyd fod yr ysgol yn un newydd sbon oedd wedi ei chefnogi trwy gynllun Ysgolion 21fed Ganrif a fod y safonau tân yn uchel iawn.
Ond, yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, mae peth o’r deunydd wedi eu gwneud gan y cwmni oedd yn gyfriol am y cladin yn Nhŵr Grenfell Llundain lle cafodd o leia’ 70 o bobol eu lladd mewn tân y mis diwetha’.
- Fe gadarnhaodd fyd fod Cyngor Sir Casnewydd yn cydymffurfio â rheolau tân ar ôl i broblemau ddod i’r amlwg gyda chladin tri bloc o fflatiau yno.Dim angen cau ysgolion meddai’r Llywodraeth
“Dim ond rhai colegau ac ysgolion ddylai gau oherwydd profion Grenfell”
Mae’r Llywodraeth wedi dweud nad oes angen cau’r rhan fwya’ o ysgolion oherwydd pryderon am ddeunydd adeiladu wedi tân Tŵr Grenfell yn Llundain.
Dim ond ysgolion a cholegau addysg bellach sy’n cynnig llety a rhai gydag adeiladau tros tua 58 troedfedd sydd angen eu cau, meddai’r Ysgrifennydd tros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant.
Roedd y Llywodraeth wedi anfon cyfarwyddyd at bob awdurdod lleol, meddai, ar ôl cyhoeddiad gan Gyngor Sir Ddinbych eu bod yn cau Ysgol Uwchradd newydd Y Rhyl ddoe a heddiw.
Fe ddywedodd hefyd fod yr ysgol yn un newydd sbon oedd wedi ei chefnogi trwy gynllun Ysgolion 21fed Ganrif a fod y safonau tân yn uchel iawn.
Ond, yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, mae peth o’r deunydd wedi eu gwneud gan y cwmni oedd yn gyfriol am y cladin yn Nhŵr Grenfell Llundain lle cafodd o leia’ 70 o bobol eu lladd mewn tân y mis diwetha’.
- Fe gadarnhaodd fyd fod Cyngor Sir Casnewydd yn cydymffurfio â rheolau tân ar ôl i broblemau ddod i’r amlwg gyda chladin tri bloc o fflatiau yno.