Llys Ynadon Westminster (Llun - Gwasanaeth Llysoedd)
Bydd llanc 17 oed o dde Cymru yn ymddangos o flaen llys yn Llundain heddiw wedi ei gyhuddo o gyflawni dwy drosedd fraw.

Mae’r dyn ifanc o Rondda Cynon Taf wedi ei gyhuddo o gomisiynu a pharatoi gweithred fraw ac o annog brawychiaeth.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster yn ddiweddarach y bore yma.

Cafodd y llanc ei arestio yr wythnos ddiwetha’ gan Uned Gwrth-Frawychiaeth Cymru sydd yn gweithio ar y cyd â gwasanaeth cudd MI5.

Dyw enw’r llanc ddim wedi ei gyhoeddi hyd yma, oherwydd ei oed.