(Llun: Gwasanaeth Iechyd)
Mi fydd Aelodau’r Cynulliad yn clywed y diweddara’ heddiw am gronfa feddygol sydd yn sicrhau bod byrddau iechyd Cymru yn darparu’r meddyginiaethau diweddaraf.

Cafodd y ‘Gronfa Triniaethau Newydd’ ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru chwech mis yn ôl ac mi fydd y gronfa yn darparu £80 miliwn dros bum mlynedd.

Nod y gronfa yw cyflymu mynediad at gyffuriau sy’n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Mae’n rhaid i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod y meddyginiaethau yma ar gael o fewn deufis ac ar hyn o bryd, mae pob bwrdd yn darparu’r 17 cyffur sy’n cael eu hargymell.

“Polisi gall newid bywydau”

“Rwy’n falch iawn bod ein cronfa triniaethau newydd yn gweithio, gan helpu pobl sy’n dioddef o gyflyrau sy’n bygwth eu bywydau i gyrraedd at feddyginiaethau newydd arloesol yn gyflym,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Yn ystod y ddeufis cyntaf, gwelwyd rhywfaint o amrywiaeth yng nghydymffurfiaeth byrddau iechyd gyda’r gofynion i sicrhau bod meddyginiaethau a oedd yn cael eu hargymell ar gael.

“Rwy’n falch iawn o weld bod hyn bellach wedi’i gywiro, a bod cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud fel y gall pobl Cymru fanteisio ar y polisi hwn, a all newid bywydau.”