Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland Llun: Gwefan y Comisiynydd
Dylai teuluoedd plant sydd yn marw oherwydd esgeulustod neu gamdriniaeth, fedru herio casgliadau adroddiadau, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru mae’r Athro Sally Holland yn cyfeirio at brosesau Adolygiadau Ymarfer Plant gan nodi nad yw teuluoedd yn “medru herio’r casgliadau” neu’n cael “rhoi mewnbwn” ynglŷn â geiriad yr adroddiadau.

Hefyd mae’r Comisiynydd  Plant yn nodi nad oes “proses ffurfiol” er mwyn herio penderfyniadau i beidio â chynnal adolygiadau.

Nod Adolygiadau Ymarfer Plant yw ymchwilio i waith asiantaethau statudol mewn achosion lle mae plant yn marw neu’n cael eu hanafu, ac i ddysgu gwersi er mwyn atal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol.

“Gwersi ddim yn cael eu dysgu”

“Pwrpas Adolygiadau Ymarfer Plant yw bod yn ‘ddull dysgu effeithlon’ ac i fod yn ‘agored ac onest’,” meddai Sally Holland. “Yn anffodus nid dyma yw profiad y teuluoedd sydd wedi bod mewn cysylltiad â ni.”

Ychwanegodd: “Mae teuluoedd yn teimlo nad yw gwersi yn cael eu dysgu trwy brosesau sydd ddim yn agored i herio a chraffu. Ar sail hyn, beth bynnag yw casgliad yr adroddiadau, dydyn nhw ddim yn debygol o’u derbyn os ydyn nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu trwy’r broses o’u llunio.

“Os ydy Cymru wir am wella sut yr ydym ni yn dysgu o achosion amddiffyn plant, rwyf yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried adolygu’r broses o gynnal Adolygiadau Ymarfer Plant.”

“Pwysigrwydd gweithio gyda theuluoedd”

“Mae safbwyntiau aelodau teulu yn bwysig dros ben mewn unrhyw achos lle rydym yn ceisio dysgu gwersi,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae cyfarwyddyd yr Adolygiad Ymarfer Plant sy’n cael ei ddilyn gan awdurdodau lleol yn pwysleisio pwysigrwydd gweithio gyda theuluoedd yn ystod y broses.”