Mae Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA Cymru) wedi croesawu cynllun gan Lywodraeth Cymru i wneud hi’n anghyfreithlon i werthu alcohol am lai na phris penodol.

Mae’r ‘Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol)’ ymysg pum bil sydd wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw, wrth iddyn nhw amlinellu eu blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod.

Mi fydd y bil yn cynnig fformiwla fydd yn penderfynu isafswm pris alcohol ar sail cryfder a chyfaint, ac yn galluogi awdurdodau lleol orfodi’r pwerau ac erlyn.

“Lleihau gorddefnydd”

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyflwyno deddfwriaeth fydd yn gwneud hi’n anghyfreithlon i werthu alcohol islaw pris penodol,” meddai Cadeirydd Cyngor BMA Cymru, Dr Phil Banfield.

“Mae llawer o dystiolaeth bydd y mesur yma yn lleihau gorddefnydd a chamddefnydd o alcohol. Credwn fydd y ddeddfwriaeth yma yn sicrhau fod iechyd pobol yng Nghymru yn cael ei drin fel blaenoriaeth.”