Mae’r nifer o ddisgyblion sy’n astudio ieithoedd tramor yng Nghymru yn gotwng, yn ôl adroddiad y Cyngor Prydeinig yng Nghymru.

Mewn mwy na thraean o ysgolion Cymru mae llai na 10% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn astudio iaith dramor, ac mae’r nifer sy’n astudio ieithoedd modern ar gyfer Lefel A ac Uwch Gyfrannol (UG) yn disgyn hefyd.

Mae’r adroddiad yn codi pryderon am ddyfodol athrawon o’r Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit gan alw ar Lywodraeth Cymru i “weithredu ar frys”.

‘Dychrynllyd’

“Mae’r dirywiad parhaus yn y niferoedd sy’n dysgu ieithoedd yn peri pryder, yn enwedig yn sgil Brexit, sy’n golygu y bydd mwy o fusnesau nag erioed angen sgiliau iaith er mwyn gallu cynnal busnes gyda chwsmeriaid rhyngwladol,” meddai Jenny Scott, cyfarwyddwr Cyngor Prydeinig (Cymru).

Dywed ei bod yn cefnogi cynllun ‘Dyfodol Byd-eang’ Llywodraeth Cymru i annog disgyblion i astudio ieithoedd modern.

“Fodd bynnag, er bod cynnydd o 7% wedi bod yn nifer y disgyblion sy’n astudio pynciau Lefel A yn gyffredinol ers 2001, mae’n ddychrynllyd gweld gostyngiad parhaus yn y niferoedd sy’n astudio ieithoedd tramor modern.”

Cwricwlwm newydd – cyfle i ddatblygu

Mae’r adroddiad yn awgrymu datblygu addysg Cymraeg a Saesneg mewn ysgolion cynradd i gynorthwyo’r broses o ddysgu iaith dramor yn yr ysgol uwchradd.

“Mae’n bryderus clywed athrawon yn dweud bod disgyblion Blwyddyn 7 yn dechrau’r ysgol uwchradd gyda dealltwriaeth wan o ramadeg ac nad ydyn nhw’n gallu creu cysylltiadau rhwng geirfa a strwythur ieithoedd,” meddai Jenny Scott.

Ac mae’n galw am ddatblygu a gwella statws ieithoedd tramor yn rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.

Ffigurau eraill

Mae’r adroddiad gafodd ei gynnal rhwng mis Ionawr a Mawrth eleni yn hel ynghyd arolygon ar-lein gan athrawon ieithoedd tramor ysgolion uwchradd Cymru. Dyma rai o’r canfyddiadau eraill:

  • Mae gan 44% o ysgolion lai na phum disgybl yn astudio iaith dramor ar gyfer safon Uwch Gyfrannol, ac mae gan 61% o ysgolion lai na phum disgybl sy’n astudio iaith dramor ar gyfer safon Uwch;
  • Dim ond un neu ddau athro llawn amser sydd gan 64% o adrannau ieithoedd tramor, ac mae un rhan o dair yn ddibynnol ar staff sy’n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd nad ydyn nhw’n hanu o wledydd Prydain;
  • Mae nifer y disgyblion sy’n astudio ieithoedd tramor yn parhau i ddisgyn ym mlynyddoedd 10 ac 11 sy’n awgrymu y bydd y niferoedd yn disgyn yn is eto yn 2017 a 2018;
  • Mae’r adroddiad yn awgrymu fod y lleihad yn deillio o ganlyniad i fwy o bynciau gorfodol i ddisgyblion gan gynnwys Bagloriaeth Cymru.