Eiri Angharad a Gwenno Elin Griffith
Bydd criw o bobol yn cwrdd mewn gweithdy yng Nghaerdydd heno ar gyfieithu erthyglau Wicipedia i’r Gymraeg.
Mae’n rhan o brosiect cenedlaethol i geisio cael siaradwyr Cymraeg i gyfrannu at Wicipedia drwy’r iaith, gan geisio sicrhau mwy o bresenoldeb i’r iaith yn ddigidol.
Eiri Angharad, 24, a Gwenno Elin Griffith, 25, sy’n gyfrifol am drefnu yng Nghaerdydd ar ôl cael eu “hysgogi” gan Robin Owain, rheolwr Wicimedia Cymru.
“Fe wnaeth e esbonio wrthym ni pam bod e’n bwysig, felly wnaeth e ysgogi ni i fynd ati i ddechrau,” meddai Eiri Angharad wrth golwg360.
“Mae’n debyg bod cwmnïau mawr sy’n cynnig meddalwedd mewn gwahanol ieithoedd yn dewis ieithoedd maen nhw’n cyhoeddi’r feddalwedd yn ôl faint o erthyglau sydd ar Wicipedia.
“Yn yr oes ddigidol nawr, mae mwy a mwy o’n bywydau ni i gyd ar y we ac er mwyn i’r Gymraeg oroesi, mae’n hanfodol bod y feddalwedd yma, y rhaglenni yma i gyd ar gael yn Gymraeg, neu ni’n mynd i gael ein gadael ar ôl.”
Y bwriad yw cynnal gweithdy misol i gyfieithu erthyglau, gan sicrhau bod pobol wrth law os bod angen help i wirio gwaith neu rannu gwybodaeth.
“Ry’n ni eisiau dod a lot o bobol wahanol at ei gilydd, rhai pobol sy’n brofiadol, rhai pobol sydd heb greu erthygl o’r blaen.”
Y Fasgeg – ar flaen y gad
Mae’n debyg bod y Fasgeg ar flaen y gad pan mae’n dod i erthyglau ar Wicipedia ar ôl derbyn arian gan Lywodraeth Gwlad y Basg er mwyn eu cyfieithu.
Does dim sôn y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid at y prosiect hwn ond mae wedi rhoi £20,000 i brosiect Wicipop er mwyn creu 500 o erthyglau newydd yn Gymraeg ar Wicipedia ar hanes y sîn gerddoriaeth Gymraeg.
Mae yna bartneriaeth wedi’i sefydlu hefyd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Wici Cymru.
Mae’r digwyddiad yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd am 6:30 tan 8 o’r gloch, ond does dim rhaid i chi fynd heno er mwyn cyfrannu at y prosiect. Y bwriad yw ceisio ysgogi pobol i greu prosiectau tebyg yn eu hardaloedd lleol.