Mae cydlynydd grŵp ymgyrchu yn Ynys Môn wedi “rhyfeddu” bod Prif Weithredwr yr Eisteddfod wedi derbyn a chroesawu cwmni niwclear Horizon fel nawdd.
Fe fydd cwmni Horizon – sydd yn gobeithio codi Wylfa Newydd yng ngogledd Môn- gyda safle ym mhafiliwn gwybodaeth a thechnoleg yr ŵyl eleni, ac mae’n cefnogi sioe wyddonol sydd yn teithio o amgylch yr ynys.
Yn ôl Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Elfed Roberts , mae cwmni Horizon wedi cael “effaith wirioneddol” ar bobol ifanc Ynys Môn ac wedi “datblygu addysg [y gwyddorau] trwy gyfrwng y Gymraeg”.
Ond, mae Cydlynydd grŵp Pobol Atal Wylfa B (PAWB), Dylan Morgan, yn siomedig â’r cyhoeddiad ac yn pryderu am effaith ehangiad yr orsaf bŵer ar y Gymraeg ar yr ynys.
“Sbin a phropaganda”
“Dw i wedi rhyfeddu bod cyfarwyddwr yr Eisteddfod yn llyncu sbin a phropaganda’r diwydiant niwclear.” meddai wrth golwg360.
“Unwaith eto mae Horizon yn ceisio prynu mewn i’r sefydliad Cymreig a’n twyllo pobol ei bod nhw’n gefnogol i’r Gymraeg pan mae’n gwbl amlwg os byddai project Wylfa newydd yn mynd yn ei flaen mi fyddai’n fygythiad difrifol i’r Gymraeg yng nghymunedau Gwynedd a Môn.”
Yn ôl Dylan Morgan, mae Horizon ei hunain yn cydnabod y byddai tri chwarter o weithlu yn dod o du allan i ogledd Cymru ac mae’n credu y byddai’r prosiect yn “niweidiol iawn i’r Gymraeg”.
Mae’r ymgyrchydd gwrth-niwclear yn “gobeithio bydd neb yn cael eu twyllo gan ffenest siop sgleiniog” Horizon ar y maes, ac yn nodi bydd grŵp PAWB yn sicr o ymweld â’r brifwyl.