Mae’r newyddion bod hyd at 1,100 o swyddi yn y fantol yng nghanolfan alw Tesco yng Nghaerdydd yn “bryder mawr”, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.
Daeth cadarnhad bod y cwmni’n symud canolfannau cwsmeriaid i un safle yn Dundee, gan greu 250 o swyddi yno.
Bydd gweithwyr yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio’n derbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru, yn ôl Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
Mae disgwyl i’r safle yng Nghaerdydd gau erbyn mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Cystadleuaeth
Wrth ymateb, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: “Tra fy mod yn deall mai penderfyniad masnachol yw hwn i Tesco, mae’r newyddion y bydd nifer sylweddol o swyddi’n cael eu colli’n achosi cryn dipyn o bryder i’r gweithwyr, y teuluoedd a’r cymunedau sy’n cael eu heffeithio.”
Ychwanegodd ei fod e wedi ymrwymo i “gydweithio â’r asiantaethau a’r awdurdodau lleol priodol a Llywodraeth Cymru” i gynnig pob cefnogaeth iddyn nhw.
Dywedodd mai blaenoriaeth Llywodraeth Prydain yw “parhau i ganolbwyntio ar greu’r amodau priodol ar gyfer twf economaidd drwy allforio nwyddau a gwasanaethau a denu buddsoddiad i mewn”.
Dywedodd fod y cyhoeddiad gan Tesco “yn ein hatgoffa, yn bwysig iawn, o bwysigrwydd cynnal swyddi, hybu cyfleoedd busnes yng Nghymru a sicrhau bod ein gwlad yn parhau’n lle cystadleuol i fasnachu”.