Iestyn ap Rhobert
Ar drothwy cyfarfod blynyddol y mudiad sy’n brwydro dros annibyniaeth i Gymru, mae’r Cadeirydd yn dweud bod yr ymgyrch wedi “tyfu’n fwy ac yn gynt” na’r disgwyl.
Mae Iestyn ap Rhobert yn dweud bod annibyniaeth i Gymru ar y gorwel ar ôl gweld grŵp YesCymru yn tyfu dros y misoedd diwethaf.
Ers sefydlu’r grŵp yn 2014, mae gan YesCymru “tua 400” o aelodau, sy’n “galonogol” yn ôl y cadeirydd ar drothwy eu cyfarfod cyffredinol blynyddol.
Yn ôl trefnwyr y mudiad, mae hefyd bron i 1,000 ar eu rhestr e-bost a dros 4,000 yn eu dilyn ar gyfryngau cymdeithasol ers lansio’r ymgyrch yn swyddogol ym mis Chwefror y llynedd yng Nghaerdydd.
Mae tua 13 o grwpiau lleol YesCymru ledled Cymru yn ôl cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y mudiad.
Yn ôl arolwg YouGov diwedd mis Mai, mae ychydig dros chwarter o bobol Cymru o blaid annibyniaeth.
Cefnogaeth i’r “Gymru newydd”
“Rwy’n meddwl bod y mudiad wedi tyfu’n fwy ac yn gynt nag y bydden ni wedi disgwyl,” meddai Iestyn ap Rhobert, cadeirydd YesCymru.
“Rydyn ni wedi tyfu a thyfu dros y misoedd diwethaf gyda’r nifer o grwpiau lleol yn cynyddu’n gyflym. Mae’n wirioneddol galonogol.”
“Yr her nawr yw sianelu’r brwdfrydedd. Gyda’r holl weithgaredd ac egni, rwy’n argyhoeddedig y daw annibyniaeth i Gymru yn annisgwyl o gyflym.
“Mae o gymorth bod ein nod yn glir: ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae ein gwlad yn cael ei llywodraethu. Ac ein bod yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu a dathlu’r ffaith fod pob un – o ba bynnag gefndir – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt yn ddinasyddion llawn y Gymru newydd.
“Mae’r neges agored a chynhwysol yna’n bwysig i’n holl aelodau, ac yn ddatganiad o’r fath o wlad annibynnol gallwn ni fod.”
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol YesCymru 2017 yn cael ei gynnal yn yr Hen Goleg, Aberystwyth am 11 bore fory, 17 Mehefin.