Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau na fyddan nhw’n cymryd rhan mewn ymgyrch i brofi cyffuriau yn yr ŵyl eleni gan bwysleisio eu “hagwedd llym o ddim goddefgarwch” at gyffuriau.
Daw hyn wrth i Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd (RSPH) alw ar wyliau cerddorol gwledydd Prydain i ddarparu cyfleusterau lle gall pobol brofi sylweddau am eu cryfder a’u heffaith.
Yn ôl yr RSPH, maen nhw’n gobeithio y bydd hyn yn lleihau’r niwed ar iechyd pobol gyda’r nifer o farwolaethau o ganlyniad i dabledi ecstasi yng Nghymru a Lloegr wedi codi o 10 yn 2010 i 57 yn 2015.
Cafodd yr ymgyrch ei dreialu yng ngŵyl Secret Garden Party yn Swydd Gaergrawnt y llynedd ynghyd ag yng ngŵyl Kendal Calling yn ardal y llynnoedd.
Maes B
Mae Secret Garden Party, fel yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhan o Asiantaeth Gwyliau Annibynnol (AIF) sy’n cynnwys gwyliau Bestival, Isle of Wight Festival a Gŵyl Rhif 6.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod wedi clywed tystiolaeth gan drefnwyr Secret Garden Party am y cynllun profi cyffuriau mewn cynhadledd y llynedd.
“Rydym yn derbyn cyngor cyson gan yr AIF a’r heddlu ar bob math o agweddau o fewn y diwydiant gwyliau,” meddai’r llefarydd.
“Hyd yn hyn nid oes problem amlwg o gyffuriau yn yr Eisteddfod na Maes B ac nid oes neb wedi cael ei arestio yn gysylltiedig â chyffuriau yn y blynyddoedd diwethaf.
“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod cyffuriau yn rhan o gymdeithas erbyn hyn ac rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb fel trefnwyr o ddifri fel sydd yn amlwg yn ein polisi ‘Dim Goddefgarwch’.”
Pwysleisiodd nad oes hawl dod â chyffuriau anghyfreithlon na chyfreithlon i’r digwyddiad gan egluro bod cŵn synhwyro o gwmpas a’i bod yn bosib i bobol gael eu harestio, gael cofnod troseddol neu eu hel o’r safle.
Ymateb Llywodraeth Cymru
O ran safbwynt Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd wrth golwg360: “Fydym wedi ymrwymo i leihau’r niwed a achosir gan sylweddau ac mae’r egwyddor hon yn sail i’n Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Chynlluniau Cyflawni cysylltiedig.
“Mae darparu profion mewn Gwyliau, yn enwedig os yw’n gysylltiedig â chyngor ar leihau niwed gyda’r i’r unigolyn, yn unol â’r dull hwn.”
Tymor gwyliau ar droed
Daw galwad y Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd wrth i’r tymor gwyliau ddechrau gyda gŵyl Glastonbury yn cael ei gynnal y penwythnos hwn.
“Tra bod defnydd o ‘gyffuriau clwb’ adfywiol fel ecstasi byth yn gallu bod yn ddiogel gyda’r RSPH yn cefnogi ymdrechion parhaus i’w hatal nhw rhag mynd i mewn i safleoedd adloniant, ry’n ni’n derbyn bod lefel penodol o’u defnydd yn parhau yn anochel mewn rhai amodau,” meddai Shirley Cramer, Prif Weithredwr RSPH.
“Rydyn ni felly yn credu fod ymateb pragmataidd i leihau niwed yn angenrheidiol.”