Y diweddar Andrew Davies (Llun o wefan Cronfa Andrew Pwmps)
Mae criw o ffotograffwyr proffesiynol Cymru yn dod ynghyd i drefnu arddangosfa yn Llandeilo ym mis Gorffennaf er cof am y dyn camera Andrew ‘Pwmps’ Davies.
Rhai o’r ffotograffwyr fydd yn arddangos eu gwaith yw Haydn Denman, Aled Jenkins, Dylan Wyn, Aled Ellis, Garry Wakeham, Stephen Hart, Joni Cray, Geoff Lloyd, Guto Vaughan ac Anna Fôn.
Byddan nhw hefyd yn gwerthu eu lluniau gyda’r arian yn mynd at gronfa gafodd ei sefydlu wedi marwolaeth Andrew Pwmps o ganser yn 2016.
Bwriad y gronfa yw cynorthwyo pobol o Gymru sy’n gweithio i’r diwydiannau creadigol ac sy’n dioddef o ganser.
‘Cyfrannu at achos da’
“Mae’r noson yma yn gyfle arbennig i’r cyhoedd cael gweld a phrynu gwaith rhai o ddynion a merched camera gorau Cymru,” meddai’r ffotograffydd Gareth Vaughan Jones, un o drefnwyr y noson.
Roedd Andrew Davies yn ddyn camera ac yn adnabyddus am ei waith ffilmio ar gyfer rhaglenni Newyddion S4C, Wales Today, Cefn Gwlad a Ffermio.
“Wrth gwrs mi fydd holl elw’r noson yn mynd at gronfa Andrew, ac mi fydd pawb fydd yn cymryd rhan yn cyfrannu at achos da. Trwy’r gronfa gobeithiwn y gallwn gynorthwyo a chefnogi aelodau’r diwydiant yn y dyfodol,” ychwanegodd Gareth Vaughan Jones.
Mae’r arddangosfa’n cael ei chynnal yng ngwesty’r Cawdor, Llandeilo ar Orffennaf 1, gydag arwerthiant i ddilyn.