Castell Penfro
Mae cofeb i Harri Tudur wedi cael ei dadorchuddio yng nghastell Penfro.

Cafodd ei eni yn y fan honno yn 1457, a fe oedd y Cymro cyntaf i ddod yn Frenin Lloegr, a hynny yn 1485.

Costiodd y gofeb efyd wyth troedfedd o uchder £45,000 a chafodd ei dadorchuddio gan Arglwydd Raglaw Dyfed, Sara Edwards yn ystod seremoni yn y dref heddiw.

Cafodd y gofeb ei chreu gan Harriet Addyman, a’i hariannu gan drigolion lleol, cwmni olew Valero a’r Cyngor Sir.

Mae cynlluniau ar y gweill i godi canolfan Harri Tudur yn y dref.