Llys Ynadon Llandudno
Mae dynes a achosodd wrthdrawiad rhwng saith car ar yr A55 yn Sir Ddinbych wedi cael ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis.

Cafwyd Patricia Reid, sy’n weithiwr cymdeithasol 57 oed o Gilcain ger Y Wyddgrug, yn gyrru o dan ddylanwad alcohol yn dilyn y digwyddiad ar Riw Rhuallt, ger Llanelwy, ar 25 Mai.

‘Pwysau mawr’

Clywodd ynadon yn Llandudno fod Patricia Reid o dan “bwysau mawr” yn dilyn y newyddion bod ei mam wedi cael ei rhuthro i’r ysbyty a’i bod hi wedi yfed “sawl gwydryn” o win.

Roedd hi hefyd yn dioeddef o iselder oherwydd diffyg gwaith.

Clywodd y llys hefyd fod nam wedi cael ei ddarganfod ar ei char yn dilyn y ddamwain, a bod hynny wedi arwain at ansefydlogrwydd wrth frecio.

Yn ogystal â chael ei gwahardd rhag gyrru, cafodd Patricia Reid ddirwy o £140 a bu’n rhaid iddi dalu costau gwerth £115.