Llys y Goron Caernarfon
Cafodd dau gefnder eu carcharu ddoe yn dilyn eu cyfaddefiad o ymosod ar bedoffeil yn Llanrwst.

Ymddangosodd Gavin Paul Davies, 26, a Stuart Anthony Davies, 28, gerbron Llys y Goron Caernarfon fis diwethaf ar amheuaeth o ymosod ar Lance McKeown mewn carafan ym mis Ebrill.

Cafodd deiseb ei sefydlu ar y we yn galw am ddedfryd fwynach i’r ddau gefnder o Lanrwst, a mwy na 500 o bobol wedi ei llofnodi.

Cafodd Gavin Paul Davies ddwy flynedd o garchar, tra bod Stuart Anthony Davies wedi’i garcharu am 16 mis.