Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i honiad o ymosodiad rhyw yng Nghaerdydd yn ystod oriau mân fore dydd Mawrth (Mehefin 6).
Mae’r heddlu wedi cau’r ardal o gwmpas y danffordd o dan Heol y Gogledd yn y brifddinas wrth i’w hymchwiliadau barhau.
Nid oes gwybodaeth bellach am y digwyddiad wedi’i ryddhau.