Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn mynwent ger Caerdydd.

Cafodd heddlu arfog eu galw i’r fynwent yn ardal Trelái yng Nghaerdydd tua 12.45yp prynhawn dydd Llun.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod tri o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty ond mae’n debyg nad yw eu hanafiadau yn rai sy’n bygwth eu bywyd.

Yn ôl Heddlu’r De, roedd y sefyllfa dan reolaeth erbyn tua 3yp a bod swyddogion arfog wedi cael eu galw yno fel rhagofal.

Mae ymchwiliad bellach ar y gweill.