Peter Francis Goodridge, o'r Fenni (Llun: Heddlu Gwent)
Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn 61 oed o’r Fenni yn Sir Fynwy fu farw mewn gwrthdrawiad yr wythnos diwethaf.

Cafodd Peter Francis Goodridge ei gludo i’r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau mewn gwrthdrawiad un cerbyd ar gylchfan Llan-ffwyst y Fenni ddydd Iau (Mehefin 1) a bu farw’n ddiweddarach.

Roedd Peter Goodridge yn adnabyddus yn y byd celf yng Nghymru gan wneud enw i’w hun gyda’i gwmni ArtWorks, gan gludo gweithiau celf i bob cwr o’r Deyrnas Unedig a’r byd.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi gostwng eu baneri fel teyrnged iddo.

‘Cymeriad llawn’

“Roedd Pete yn ffigwr aruthrol yn y celfyddydau gweledol a chrefftau yng Nghymru,” meddai ei deulu mewn teyrnged iddo.

Mae’n gadael gwraig, Melanie Brown, a dau o blant Scarlett a Gregory sy’n dweud – “fe gaiff ei golli’n fawr gan artistiaid, curaduron a thechnegwyr fu’n gweithio gydag ef.

“Roedd Pete yn gymeriad llawn, yn chwe throedfedd chwe modfedd; roedd hefyd yn medru cysylltu â chymaint o bobol, roedd yn gwneud beth roedd e’n caru ei wneud, ac yn rhan unigryw o fywydau cymaint o bobol. Fe fydd yn cael ei golli’n fawr.”