Leanne Wood (llun: Plaid Cymru)
Byddai senedd grog yn galluogi Plaid Cymru i fynnu mwy o fuddsoddi yng Nghymru, yn ôl yr arweinydd Leanne Wood.
“Os na fydd Llafur na’r Ceidwadwyr yn ennill mwyafrif, bydd Cymru mewn sefyllfa gref iawn,” meddai.
“Fe fydd Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn defnyddio’u pleidleisiau i ennill buddsoddiadau yng Nghymru – trydanu ein rheilffyrdd, morlyn llanw ac yn bwysicach na dim, cytundeb Brexit da i Gymru.”
Wrth geisio apelio am gefnogaeth pleidleiswyr Llafur, ceisiodd Leanne Wood fanteisio ar raniadau o fewn y blaid Lafur, gan gyhuddo ASau Llafur Cymru o baratoi i danseilio eu harweinydd.
“All pobl ddim pleidleisio dros Jeremy Corbyn yng Nghymru,” meddai. “Mae pleidlais dros AS Llafur yn fwyaf tebygol o fod yn bleidlais i roi cyllell yng nghefn Corbyn – a phwy sydd eisiau rhoi mandad iddyn nhw wneud hynny eto?”