Meri Huws
Mae angen newid mawr yn y ddarpariaeth o gyrsiau galwedigaethol drwy gyfrwng y Gymraeg mewn colegau chweched dosbarth, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg a Phrif Weithredwr Colegau Cymru.
Bu Meri Huws ac Iestyn Davies ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn galw heddiw am fuddsoddi mewn cyrsiau o’r fath er mwyn sicrhau bod y gweithlu galwedigaethol – sy’n cynnwys plymwyr, trydanwyr, gofalwyr ac yn y blaen – yn ddwyieithog.
Yn ôl Meri Huws, dylai’r Gymraeg fod yn rhan greiddiol o wasanaeth y gweithlu.
“Dw i eisiau deall be’ mae’r trydanwr yn gwneud, y boi sy’n plymio’r ffridj i mewn yn gwneud, a dw i eisiau deall yna yn fy iaith fy hun,” meddai wrth golwg360.
“Dyna’r adborth ry’n ni’n cael oddi wrth, yn arbennig pobol sy’n hŷn, rhieni ifanc hefyd yn dweud ‘Dw i eisiau rhywun sy’n dod i’r tŷ i fod yn gwneud jobyn o waith yn deidi ond hefyd cyfathrebu ‘da fi drwy fy iaith fy hun.
“Dyna pam mae colegau addysg bellach mor bwysig achos taw nhw sy’n darparu’r trydanwyr yna, y plymwyr y dyfodol, y gofalwyr y dyfodol.
Roedd yn cydnabod na fydd y newid yn digwydd dros nos a bod angen cynllun 10 mlynedd i recriwtio digon o ddarlithwyr i hyfforddi’r gweithwyr.
“Dyw e ddim yn mynd i ddigwydd drwy ddamwain, drwy ryw wyrth, mae angen cynllunio, mae eisiau cefnogaeth ac mae eisiau adnoddau arnyn nhw o gyrraedd y nod yna o greu gweithwyr dwyieithog, abl, yn ein cymunedau ni.
“Dw i yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru edrych ar greu cynllun i hyfforddi hyfforddwyr y dyfodol, y bobol hynny fydd yn cyfleu’r sgiliau i’r bobol ifanc yma.
“Mae’n rhaid i ni gynllunio gweithlu dwyieithog, dyw hwnna ddim wedi digwydd o ran addysg bellach ac mae’n hen bryd bod e’n digwydd nawr, bod ‘na gynllun 10 mlynedd o recriwtio pobol i fod yn ddarlithwyr mewn colegau addysg bellach.”
Barod i “weiddi” am newid
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr Colegau Cymru, fod y sector addysg bellach wedi cael llai o gefnogaeth yn y gorffennol.
A dywedodd wrth golwg360 fod angen herio gwleidyddion i newid y sefyllfa.
“Mae eisiau i ni fynd i afael ar realiti’r sefyllfa, efallai bod ‘na ddiffyg hyder gan rai staff sy’n medru’r Gymraeg, er mwyn creu cyfleoedd iddyn nhw ddarparu mwy drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog,” meddai.
“Er mwyn gwneud hynny, mae eisiau i ni fod yn barod i gael strategaeth ar gyfer addysg ôl-16 ac wedyn strategaeth ar gyfer y gweithlu.
“Dyw’r strategaeth yna ddim yn bodoli, does ‘na ddim plan gennym ni ar gyfer addysg ôl-16 ar hyn o bryd, does ‘na ddim yn deillio o hynny, cynllun gennym ni ar gyfer hyrwyddo a chodi safonau ein staff.
“Felly mae’n rhaid i ni fod yn barod i ofyn a gweiddi os oes rhaid am y math o strategaeth hynny, a bod ‘na le i ddysgu drwy’r Gymraeg.”