Heddlu ar y Maes
Yn ôl ymgyrchydd adnabyddus, mae’r Urdd yn cael ei “defnyddio’n wleidyddol” gan Lywodraeth Prydain drwy gael heddlu arfog ar faes yr Eisteddfod ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni.
Dywedodd Ffred Ffransis wrth golwg360 bod yr heddlu arfog yn “gwneud sioe fawr o’u drylliau” ac yn cael tynnu lluniau gydag aelodau ifanc o’r Urdd.
Mae’r ŵyl wedi gorfod tynhau mesurau diogelwch yn dilyn yr ymosodiad brawychol ym Manceinion.
“Rydym yn falch o’r berthynas sydd gennym gyda Heddlu De Cymru, ac wedi derbyn cyngor ganddynt ynglŷn â’r trefniadau diogelwch ychwanegol sydd mewn lle eleni yn Eisteddfod yr Urdd yn dilyn y digwyddiad erchyll yn Manceinion yr wythnos diwethaf,” meddai Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, Aled Sion.
“Rydym yn ymgynghori yn gyson gyda’r Heddlu, a’u penderfyniad nhw yw penderfynu pa bryd ac ymhle i ddefnyddio swyddogion arfog. Rydym yn hapus iddyn nhw arwain o ran y camau diogelwch angenrheidiol.”
Yn ôl Ffred Ffransis fe ddylai’r heddlu arfog fod mewn ystafell bwrpasol, ac o olwg y cyhoedd.
“[Rydw i yn] poeni bod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei defnyddio’n wleidyddol, bod y Llywodraeth eisiau rhoi’r argraff, rhoi’r sioe o fod yn tough ar derfysgwyr ac ar drais a’u hateb nhw fel bob amser i wneud hynny ydy mwy o drais, mwy o ddrylliau, dangos y drylliau,” meddai Ffred Ffransis.
“Petai rywun wir yn poeni am ddiogelwch yr eisteddfodwyr a barnu bod angen heddlu arfog, mi fyddai’r rheini mewn ystafell yn barod i ymateb i unrhyw beth sy’n codi.
“Bydden nhw ddim yn cerdded rownd y maes yn gwneud sioe fawr o’u dryllau, yn tynnu lluniau nhw gyda bechgyn bach, yn hybu diwylliant dryllau a diwylliant trais, diwylliant y gemau fideo.
“Sioe yw hon, ac yng nghanol hyn, mae’r Urdd yn cael ei defnyddio ac ry’n ni’n colli rhywbeth pwysig iawn o ran ein gwerthoedd ni.”
Ond beth yw’r farn gyffredinol ar faes y brifwyl eleni? Mi aeth golwg360 i holi rhai o’r Eisteddfodwyr…