Jonathan Edwards
Mae Plaid Cymru wedi ymosod ar y Blaid Lafur heddiw am bleidleisio gyda’r Ceidwadwyr ar sawl peth sydd wedi gwneud drwg i Gymru, medden nhw.

Yn ôl y Blaid, mae Llafur wedi pleidleisio gyda’r Torïaid yn San Steffan i dorri £30 biliwn o wariant cyhoeddus.

Hefyd mae Plaid Cymru yn cwyno fod Llafur wedi pleidleisio i ddyblu incwm y teulu brenhinol “er bod gweddill y wlad yn dioddef mesurau llymder”.

Ac mae Llafur dan y lach am bleidleisio gyda’r Torïaid i dorri budd-dal yr anabl.

Daw’r ymosodiad wedi i Lafur honni bod y Ceidwadwyr a’r Blaid yn dilyn rhai o’r un polisïau ac y byddai Plaid Cymru’n hoffi gweld y Ceidwadwyr mewn grym

‘Pleidleisio yn erbyn Cymru’

“Bob etholiad, mae’r Blaid Lafur yn dweud yr un peth – mai hwy yw’r blaid all atal y Torïaid ac y byddant yn sefyll dros Gymru, ond gweithredoedd, nid geiriau, sy’n cyfrif. Dyw pleidleisio dros Lafur ddim yn atal y Torïaid – y cyfan mae’n rhoi i ni yw’r status quo,” meddai Jonathan Edwards, ymgeisydd Plaid Cymru yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

“Mae gweithredoedd yn llefaru’n uwch na geiriau, ac y mae record y Blaid Lafur yn siarad drosto’i hun.

“Dyw Llafur ddim yn ffrind i Gymru. Pan fyddant yn trafferthu i bleidleisio, yn amlach na heb maent yn pleidleisio yn erbyn buddiannau Cymru, nid drostynt.

“Yn yr Alban, maent yn gweithio ochr yn ochr â’r Toriaid mewn cynghorau, ac y maent yn gweithio gyda’i gilydd i ennill seddau San Steffan rhyngddynt. Mae Jeremy Corbyn ei hun yn gyson wedi pleidleisio yn erbyn datganoli – cadw adnoddau naturiol Cymru yn nwylo gwleidyddion San Steffan; cadw Cymru mor ddibynnol ag sydd modd ar San Steffan. Ysgrifennydd Gwladol cysgodol Cymru a sicrhaodd fod y consensws trawsbleidiol ar gryfhau democratiaeth Gymreig yn cael ei chwalu trwy Broses honedig Gŵyl Dewi.

“Beth bynnag ddywed Jeremy Corbyn, mae ei ASau yn pleidleisio gyda’r Toriaid pan ddaw’n fater o helpu’r tlotaf. Pleidleisiodd Llafur dros y pecyn £30 biliwn o doriadau gwariant oedd yn canoli yn bennaf ar gapio taliadau lles i’r rhai sydd ei angen. Fe wnaethant bleidleisio i ostwng taliadau credyd treth i’r rhai ar gyflogau isaf ac ar y llaw arall, fe wnaethant gefnogi pleidlais i ddyblu incwm y teulu brenhinol.

“Dywed eu maniffesto eu bod eisiau dileu ffioedd dysgu, ond byddai modd iddynt wneud hynny heddiw yng Nghymru lle maent yn llywodraethu. Yn hytrach, codir £9,000 y flwyddyn ar fyfyrwyr Cymru i fynd i’r brifysgol, diolch i Lafur. Maent yn dweud eu bod eisiau dileu contractau dim oriau, ond cawsant saith cyfle gwahanol i wneud hynny yng Nghymru, a phob tro, maent naill ai wedi ymatal neu bleidleisio yn erbyn Plaid Cymru.

“Dywed eu maniffesto eu bod o blaid datganoli plismona, ond y maent wedi gwrthwynebu hyn yn gyson pan ddaw’n fater o bleidleisio arno. Mewn gwirionedd, dywedodd yr ymgeisydd Llafur yn y Rhondda’r wythnos hon ei fod yn ei wrthwynebu, er ei fod yn ei faniffesto.”

‘Ffyrdd addas’

Ychwanegodd Jonathan Edwards:  “Hyd yn oed petai Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, yr unig ffordd i’w orfodi i gymryd sylw o Gymru – i gofio ein bod yn bodoli ac i gyflwyno ar brosiectau hanfodol a anwybyddwyd gan un llywodraeth Dorïaidd a Llafur ar ôl y llall, yw gofalu bod bloc cryf, swnllyd ac unedig o ASau Plaid Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin, yn sefyll dros Gymru bob amser.

“Mae gan yr Alban ei bloc yn San Steffan. Mae ar Gymru angen ei bloc ei hun.

“Yr unig ffordd i sicrhau bod ein rheilffyrdd yn cael eu trydaneiddio, fod Morlyn Bae Abertawe yn digwydd,  a bod rhwydwaith y ffyrdd yn addas i’r 21ain ganrif yn cael ei godi ledled Cymru yw pleidleisio dros Blaid Cymru.”