Rebecca Alice Jones o Aberdâr, enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017
Rebecca Alice Jones o Aberdâr sydd wedi ennill gwobr Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái 2017.
Mae’r ferch 22 oed newydd raddio â gradd dosbarth gyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe gan ddweud iddi gael ei hysbrydoli gan ei darlithydd, y cyn-Archdderwydd Christine James.
“Roeddem ni’n chwilio am rywun oedd yn mynd i ysbrydoli cyfoedion,” meddai Eirian Conlon ar ran hithau a’i chyd-feirniad Gina Morgan.
Ers y llynedd mai pwyslais y gystadleuaeth wedi symud oddi wrth dasgau ysgrifenedig at dasgau llafar, ac yn ystod y dydd bu’n rhaid i’r cystadleuwyr ymgymryd â thasgau gan gynnwys delio â’r cyfryngau, gwirfoddoli yn y fynedfa ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Y ddwy arall ar y rhestr fer oedd Kayleigh Jones o Ystalyfera a Sophie Jones o Gaerdydd.
“Agor drysau”
“Mae’r ffaith bod Christine, fel fi, yn dod o’r Cymoedd ac wedi dysgu’r Gymraeg wedi rhoi hwb i fi wrth ddilyn y cwrs,” meddai Rebecca Jones.
“Yn aml iawn byddwn i’n mynd i ddigwyddiadau Cymreig, fel Sioe Frenhinol Cymru, ac yn clywed pobol yn sgwrsio yn y Gymraeg ond methu deall gair.
“Dw i’n credu bod yr iaith Gymraeg yn rhan bwysig o’n hunaniaeth fel Cymry, a bydd yr iaith yn agor drysau i fi wrth chwilio am swyddi yn y dyfodol.”