Y dyddiad yn glir (Llun: David Greenslade)
Mae cadair sy’n ymddangos iddi gael ei chyflwyno’n wobr eisteddfodol ganrif union yn ôl, yn destun dipyn o ddirgelwch yn ardal Eisteddfod yr Urdd eleni.
Ers i gapel Siloam yr Annibynnwyr ym mhentref Cefn Cribwr gau bythefnos yn ôl (ar Fai 12), mae cyn-aelodau wedi bod yn ceisio dod o hyd i hanes a chefndir dodrefnyn sydd â’r dyddiad 1917 arno.
Mae’r gadair wedi bod yn cael ei chadw yn Siloam ers rhai degawdau ond, ers i’r achos ddod i ben oherwydd gostyngiad yn nifer yr aelodau, mae mynd at wraidd hanes y wobr wedi dod yn bwysig i un cyn-aelod yn arbennig – a hwnnw ydi’r bardd, David Greenslade.
Mae wedi rhannu llun y gadair ar Facebook yn y gobaith y bydd rhywun yn gwybod rhywbeth am y celficyn.
“Mae capel Siloam Cefn Cribwr wedi cau,” meddai, “a dyma gdair eisteddfodol ond does neb yn gwybod ei hanes, Mi fyddai’n braf cael gwybod rhywbeth am y gadair hardd hon.”
Hyd yn hyn, dau beth sy’n wybyddus am y gadair:
– Enllydd y gadair oedd y Parchedig Gwyneifryn Daves, cyn-weinidog ar gapel Siloam, Cefn Cribwr;
– Cafodd ei hennill yn 1917, union gan mlynedd yn ôl.