Eleni, fe fydd prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd yn cael eu cynnal ddiwedd y pnawn, am y tro cyntaf erioed.

Yr arfer oedd cynnal y seremoni i anrhydeddu gwahanol enillwyr gwaith cartref am 2.30yp – ond eleni, fe fydd cynulleidfa’r Pafiliwn ym Mhen-coed yn gorfod aros awr a hanner yn hwy, tan 4yp.

Heddiw (ddydd Llun) fe fydd prif gyfansoddwr cerddoriaeth y brifwyl ieuenctid yn cael ei anrhydeddu am 4yp; ddydd Mawrth, Medal y Dysgwyr fydd yn cael ei chyflwyno; y Fedal Ddrama ddydd Mercher; y Gadair ddydd Iau; cyn bod yr yr wythnos o seremonïau yn dod i ben gyda’r Coroni ddiwedd pnawn dydd Gwener.

Mae’r newid yn dilyn patrwm tebycach i’r Eisteddfod Genedlaethol arall, sydd ers rhai blynyddoedd bellach wedi symud prif seremonïau i 4.30yp o 2yp.