Phillip Kar Stanton (Llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am gymorth wrth geisio dod o hyd i ddyn ifanc sydd ar goll o Aberystwyth.

Does neb wedi gweld Phillip Karl Stanton ers dydd Mawrth, Mai 23, ac roedd hynny yn ei gartref yn Penparcau. Fe gafodd ei riportio ar goll toc cyn 8yh nos Sadwrn, Mai 27.

Mae disgrifiad y llu ohono yn nodi ei fod yn ddyn croenwyn, tua 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, gyda gwallt hir wedi’i blethu, a barf.

Mae apel yr heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd a gwybodaeth i gysylltu ar y rhif 101.