Mi fydd cystadleuaeth ‘Ffermwraig y Flwyddyn 2017’ yn cael ei lansio’r wythnos yma gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU).
Dyma fydd 21ain flwyddyn y gystadleuaeth sydd yn dathlu cyfraniad menywod yn niwydiant amaethyddiaeth ac sy’n cael ei chynnal ar y cyd â Chymdeithas Adeiladu Principality.
Bydd enillydd y gystadleuaeth yn derbyn gwobr o £500 ac mi fydd y person wnaeth enwebu’r enillydd yn derbyn gwerth £50 o dalebau siopau ffarm a nwyddau.
Arwresau cudd y diwydiant
“Menywod sydd yn ffermio yw arwresau cudd y diwydiant,” meddai Llywydd NFU Cymru, Stephen James. “Mae llawer yn osgoi sylw ac yn dewis cyfrannu yn y cefndir.”
“Mae’r gystadleuaeth yma ar gyfer y menywod yna sydd ddim yn sylweddoli bod eu cyfraniad yn eu gwneud nhw’n arbennig.”
Bydd y cyfnod enwebu yn dod i ben ar ddydd Llun, Mehefin 19.