Y diweddar Eifion Gwynne
Fe fydd cymuned Aberystwyth yn dod ynghyd yng nghlwb rygbi’r dref ddydd Sul (Mai 28) i gofio un o’i meibion, Eifion Gwynne.
Fel rhan o’r diwrnod, fe fydd gêm rygbi rhwng tîm XV Eifion Gwynne a thîm Sêr Cymru, ynghyd â cherddoriaeth fyw a llawer mwy o weithgareddau.
Cafodd y chwaraewr rygbi 41 oed ei daro gan gar ym Malaga ar Hydref 22 y llynedd – ddeuddydd cyn ei ben-blwydd. Roedd e yno ar ei wyliau ar gyfer priodas ei ffrind ar y Costa del Sol.
Roedd yn ddyn poblogaidd a gafodd ei ddisgrifio fel dyn “a fyddai’n gwneud ei orau dros bawb”, ac roedd yn adnabyddus i lawer fel chwaraewr a hyfforddwr rygbi.
Fe adawodd wraig, Nia; ei blant Mabli, Modlen ac Idris; naw o frodyr a chwiorydd, a’i fam Anne.
Roedd Eifion Gwynne yn chwaraewr gyda chlwb Llanymddyfri am bedwar tymor rhwng 2003 a 2007, ac fe gafodd ei enwi’n seren y gêm pan enillodd y clwb Gwpan Cymru yn 2007. Cafodd ei ddisgrifio gan y clwb fel “blaenwr ymroddgar oedd yn cario’r bêl heb ofn, er pan oedd e’n bylchu fe ellid maddau i chi am feddwl ei fod yn chwaraewr tri-chwarter”.
Ond yn fwy na dim, mae’n cael ei gofio fel “gŵr bonheddig ar y cae ac oddi arno”.