Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymateb i bryder y gallai cant o swyddi fod yn y fantol, trwy nodi mai bwriad eu “cynllun uchelgeisiol” fydd i gyfrannu at eu “twf a’u rhagoriaeth”.
Mae’r brifysgol yn dweud eu bod “yn siarad â’r staff oll er mwyn datblygu a galluogi ail-strwythuro gwirfoddol” ac yn nodi eu bod eisoes wedi “lleihau costau’r uwch rheolwyr yn sylweddol.”
“Fel prifysgolion Prydeinig eraill, mae Metropolitan Caerdydd yn cydnabod ei fod yn wynebu cystadleuaeth am fyfyrwyr o ganlyniad i gwymp demograffig ymysg pobol 18 blwydd oed a pharhad yr ansicrwydd sydd wedi dod yn sgil penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd wrth golwg360.
“Cyfrifoldeb Met Caerdydd” meddai’r Llywodraeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud eu bod yn ymwybodol o’r cynlluniau ond am nodi nid problem unigryw i Gymru yw’r un sydd yn wynebu prifysgolion Cymreig yn bresennol.
“Rydym yn deall y bydd yna gyfnod o ymgynghoriad, ac yn disgwyl y bydd staff ac undebau yn cael ei diweddaru yn ystod pob cam o’r broses,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Met Caerdydd eu hunain sydd yn gyfrifol am staffio.”