Paul Nuttall, arweinydd UKIP
Mae arweinydd UKIP wedi datgan fod yn rhaid i’r broses ddemocratiaid fynd rhagddi, wrth iddo gyhoeddi y bydd maniffesto ei blaid yn cael ei lansio ddydd Iau, Mai 25.
Mae ymgyrchu at yr etholiad cyffredinol ar Fehefin 8 wedi’i atal ers yr ymosodiad brawychol ym Manceinion nos Lun. Ond Paul Nuttall yw’r cyntaf o blith arweinyddion y prif bleidiau i ddweud y bydd yn ail-afael yn yr ymgyrchu.
“Rydan ni i gyd wedi’n dychryn gan yr hyn ddigwyddodd yn Manceinion,” meddai Paul Nuttall heddiw.
“Yn dilyn digwyddiad nos Lun, dydi hi ond yn iawn i’r pleidiau fod wedi rhoi’r gorau i ymgyrchu am gyfnod fel arwydd o barch i’r rheiny sydd wedi colli eu bywydau neu wedi’u hanafu’n ddifrifol.
“Ond allwn ni ddim caniatau i’n ffordd ni o fyw gael ei danseilio am y rheiny sydd am wneud niwed i ni. Mae’r bobol yma’n casau ein ffordd ni o fyw, yn casau ein rhyddid ni, ac yn casau ein democratiaeth ni.
“Yr ymateb gorau i hyn ydi gwneud yn siwr fod ein proses ddemocrataidd ni’n mynd yn ei blaen,” meddai Paul Nuttall wedyn. “Dyna pam dw i wedi penderfynu fod yn rhaid i ni fwrw ymlaen gyda lansiad ein maniffesto fory.”