Rolfe Davies (Llun: Heddlu Gwent)
Mae Heddlu Gwent wedi apelio o’r newydd am wybodaeth yn dilyn diflaniad Rolfe Davies, 62, o Faesycwmer.

Dydy e ddim wedi cael ei weld ers tua 9 o’r gloch fore Llun, Mai 8 ac mae’r heddlu’n gofidio amdano.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, chwe throedfedd o daldra ac o gorffolaeth ganolig, a chanddo wallt llwyd, ac mae’n bosib fod ganddo fe farf erbyn hyn.

Mae e’n gwisgo sbectol ac yn defnyddio ffyn i gerdded.

Pan aeth e ar goll, roedd e’n gwisgo siwt ddu, crys gwyn ac esgidiau duon.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.