Clwb Ifor Bach ar Stryd y Fuwch Goch (Womanby Street)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu newid y polisi cynllunio yng Nghymru er mwyn cefnogi mannau sy’n cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.
Daw hyn yn dilyn ymgyrch i achub Stryd y Fuwch Goch (Womanby Street) sy’n frith o dafarndai a chlybiau sy’n cynnal nosweithiau cerddoriaeth fyw.
Roedd pobol yn poeni am gynlluniau i greu gwesty uwchben tafarn Wetherspoon’s a chais cynllunio i ddatblygu bloc o fflatiau’r drws nesaf i Glwb Ifor Bach.
Yn dilyn hyn bu rhai’n ymgyrchu gyda mwy na 5,000 yn llofnodi deiseb i ddiogelu statws cerddorol y stryd.
Ac mae Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud eu bod nhw am gyflwyno newid i gefnogi ardaloedd o’r fath.
‘Cyfrannu at ddiwylliant Cymru’
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn diwygio’r polisi cynllunio i gynnwys elfen ‘Asiant dros newid’ sy’n golygu mai cyfrifoldeb datblygwyr fydd rheoli effaith sŵn wrth ddatblygu ger lleoliad cerddoriaeth fyw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am weld statws diwylliannol ardaloedd o’r fath yn cael ei gynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol.
“Mae lleoliadau cerddoriaeth fyw yn cyfrannu’n fawr at ddiwylliant Cymru a’n heconomi liw nos,” meddai Lesley Griffiths.
“Dw i’n ymwybodol o’r ymdrechion i ddiogelu’r lleoliadau hyn at y dyfodol, gan gynnwys ymgyrch “Achub Stryd Womanby” yng Nghaerdydd, a hoffwn dalu teyrnged i waith caled ac ymrwymiad pawb fu’n rhan o hyn.”