”Dadl
”]Roedd hi’n ddadl danbaid a bywiog nos Fercher rhwng arweinwyr pleidiau Cymru yn nadl ITV Cymru cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Bu’n ornest ddwy awr o hyd, gyda Mark Williams yn cynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig; Leanne Wood o Blaid Cymru; Carwyn Jones dros Lafur Cymru, Andrew RT Davies dros y Ceidwadwyr Cymreig a Neil Hamilton ar ran UKIP Cymru.
Bu’r pump yn dadlau dros amryw o bynciau, gan gynnwys Brexit, yr economi, mewnfudo ac ymddiriedaeth pobol mewn gwleidyddion.
Dyma grynodeb o berfformiad y pum arweinydd:
Carwyn Jones
Strategaeth Carwyn Jones oedd ymosod ar y Torïaid, gan osgoi cwestiynau ar raniadau o fewn ei blaid ei hun.
Ond cafodd ei gorneli erbyn diwedd y ddadl a’i orfodi i ddweud ei fod yn hyderus mai Jeremy Corbyn fydd arweinydd nesaf y wlad – brawddeg a ddenodd tipyn o chwerthin.
Pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru record y Llywodraeth ym Mae Caerdydd hefyd, gan ddweud bod y blaid wedi delifro dros Gymru.
Andrew RT Davies
Pwysleisiodd Andrew RT Davies fod gan y wlad gyfle mawr o achos Brexit, a dywedodd mai oherwydd y Ceidwadwyr y mae economi’r wlad yn tyfu.
Ei wendid mwyaf mae’n siŵr oedd ailadrodd y llinell “arweinyddiaeth gref a sefydlog Theresa May” a ddaeth yn dipyn o jôc erbyn diwedd y ddad,l ac oedd yn denu ochneidio gan y gynulleidfa yn yr ystafell.
Doedd e ddim chwaith yn gallu rhoi sicrwydd y bydd hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng ngwledydd Prydain yn cael eu diogelu wedi Brexit.
Leanne Wood
Pwysleisiodd Leanne Wood fod Cymru fel cenedl dan fygythiad dan y Torïaid a gallai datganoli gymryd cam yn ôl.
Dywedodd ei fod yn anochel mai Theresa May fydd yn 10 Downing Street wedi 8 Mehefin a bod angen cyfres o Aelodau Seneddol Plaid Cymru i “gryfhau llaw Cymru”.
Mynnodd hefyd nad oedd problem fewnfudo gan Gymru ac y dylai’r mater gael ei ddatganoli, fe ddenodd hyn dipyn o wrthwynebiad gan ei chyd-dadleuwyr, yn enwedig Andrew RT Davies.
Mark Williams
Roedd perfformiad Mark Williams i’w weld yn emosiynol ac angerddol, er ei fod yn cael trafferth ar adegau i gael ei lais wedi clywed ymysg y lleill.
Fe gyfaddefodd fod torri eu haddewid ar ddileu ffioedd dysgu wedi bod yn “gamgymeriad trychinebus” ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.
Pwysleisiodd fod angen gwrthwynebiad cryf ar wledydd Prydain ac mae’r Democratiaid Rhyddfrydol allai ddelifro hynny.
Neil Hamilton
Neges Neil Hamilton oedd bod angen UKIP o hyd i sicrhau bod Brexit yn digwydd ac nad oedd modd cael ffydd yn record Theresa May ar fewnfudo.
Roedd e braidd yn dawel yn ystod y ddadl, sy’n wahanol iawn i’w gymeriad fel arfer yn Siambr y Senedd. Doedd hwn ddim yn berfformiad cryf iawn ganddo.
Barn y pleidiau
Dyna oedd ein barn ni ond tybed beth yw barn y pleidiau?
Y y clip, dyma farn pobol y Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Phlaid Cymru yn rhoi eu sbin nhw ar y noson. Doedd neb ar gael i siarad yn Gymraeg ar ran Lafur Cymru a doedd dim sôn am bobol UKIP…