Bara lawr ar dost (Wikipedia CCA 2.0)
Mae bara lawr wedi derbyn statws gwarchodedig arbennig gan y Comisiwn Ewropeaidd – yr un statws ag sydd gan Halen Môn, cregyn gleision Conwy a chig oen Cymru.

Ledled Ewrop, mae’r cynnyrch sydd â’r un statws yn cynnwys Champagne a Parma Ham, sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu hansawdd.

Bydd y statws yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid eu bod nhw’n prynu ac yn bwyta’r cynnyrch go iawn.

Bara lawr yw’r deuddegfed cynnyrch o Gymru i dderbyn y statws, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi cwmni Selwyn’s Seafood ym Mhenclawdd ar Benrhyn Gŵyr dros y pedair blynedd diwethaf wrth iddyn nhw wneud cais am y statws.

Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar ansawdd bara lawr, gan gynnwys tymheredd dŵr y môr a’r dull o’i gynhyrchu.

Mae’r grefft o gasglu’r lafwr yn deillio o Sir Benfro’r 1800au, ac fe gâi ei sychu cyn ei gludo i Abertawe i’w goginio a’i werthu.

‘Enw da cynnyrch Cymreig yn parhau’

Wrth groesawu statws gwarchodedig ar gyfer Bara Lawr Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae enw da Cymru am fwyd a diod o ansawdd uchel yn parhau i fynd o nerth i nerth. Rwy wrth fy modd bod Bara Lawr Cymru wedi ymuno â’n rhestr gynyddol o fwyd a diod sydd wedi ennill statws gwarchodedig.

“Mae’n eicon hynod o fwyd Cymru ac mae’n dwyn i gof ei wreiddiau hanesyddol yn nhraethau gorllewin Cymru.

“Mae’r sector bwyd a diod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a dyna pam rydyn ni wedi gosod targed uchelgeisiol i gynyddu’r sector 30% erbyn 2020.

“Mae cydnabyddiaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd yn bwysig gan ei bod yn arwydd o ansawdd cynnyrch unigryw Cymru wrth inni ymdrechu i gyrraedd marchnadoedd newydd er mwyn tyfu’r diwydiant a pharatoi ar gyfer dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”