Pont Hafren Llun: Wicipedia
Mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud ei bod hi am ddiddymu’r holl dollau ar bontydd Hafren pe bai’r Ceidwadwyr yn dod i rym yn yr Etholiad Cyffredinol fis nesaf.
Mae disgwyl i’r pontydd ddod yn ôl i ddwylo cyhoeddus yn 2018 oddi wrth y cwmni Severn Crossings, ac ers rhai misoedd mae sôn y byddai hynny’n gyfle i haneru’r prisiau.
Ond dywed Theresa May heddiw fod ei phlaid am ddiddymu’r tollau ar yr holl gerbydau sy’n teithio rhwng Cymru a Lloegr.
Dywedodd y gallai hynny arwain at hwb o £100 miliwn i’r economi leol.
‘Twf economaidd’
“Rwyf am sicrhau fod cynnydd economaidd yn cael ei rannu ledled y Deyrnas Unedig,” meddai Theresa May.
“Drwy waredu â thollau i 25 miliwn o deithiau blynyddol rhwng dwy genedl byddwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng y cymunedau.
“Bydd hyn yn arwain at dwf economaidd ledled y wlad ac yn helpu canolfannau economaidd allweddol yng Nghaerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chasnewydd,” ychwanegodd.
‘Penderfyniadau mawr’
Ar hyn o bryd £6.70 yw pris y doll i geir; £13.40 i faniau a cherbydau a £20.00 i loriau a bysiau.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns – “mae gwaredu â thollau Pont Hafren yn enghraifft o’r Ceidwadwyr yn gwneud penderfyniadau mawr pan maen nhw’n benderfyniadau iawn, ac wrth wneud hynny, yn trawsnewid gobeithion economaidd ar y cyd rhwng de Cymru a de orllewin Lloegr.”
“Mae gyrwyr sy’n defnyddio’r briffordd allweddol hon rhwng dwy genedl, ar y ffordd i Lundain, yn elwa o hwb o £100m i’r ardal leol,” meddai Alun Cairns.