Heddlu arfog Llun: PA
Mae gwasanaeth heddlu Cymru a Lloegr mewn “cyflwr difrifol”, yn ôl rhybudd gan Ffederasiwn yr Heddlu.
Mae’r ffederasiwn yn rhybuddio fod swyddogion heddlu profiadol yn gadael y llu am nad oes “cefnogaeth ddigonol” ar gael.
Yn ôl eu ffigurau, fe wnaeth 2,700 o swyddogion heddlu adael y proffesiwn yng Nghymru a Lloegr y llynedd – y cwymp mwyaf mewn tair blynedd.
Ac maen nhw’n cyfeirio’n benodol at swyddogion arfog, gyda mwy o alw amdanyn nhw, ond llai yn dewis troi at y maes oherwydd pryder y byddan nhw’n “cael eu llusgo drwy’r llysoedd” neu’n cael “eu cosbi’n annheg” am weithredu a defnyddio’r arfau.
‘Pen eu tennyn’
Daw rhybuddion Ffederasiwn yr Heddlu wrth iddyn nhw gynnal eu cynhadledd flynyddol ym Mirmingham, lle bydd Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, Amber Rudd yn bresennol.
“Os nad yw’r newid yn digwydd yn sydyn, fe all y cyhoedd weld gweithlu llai profiadol wrth i swyddogion gyrraedd pen eu tennyn a dewis gadael,” meddai Cadeirydd Ffederasiwn yr Heddlu, Steve White.
Ac yn ôl ffigurau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, mae mwy o alw am swyddogion arfog i gryfhau eu hamddiffyniad i ddelio â digwyddiadau brawychol.
Y llynedd, fe gafodd 640 o swyddogion arfog newydd eu penodi yng Nghymru, ac mae disgwyl i 1,500 ychwanegol gael eu penodi’r flwyddyn nesaf.