Kirsty Williams
Mi fydd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn cyhoeddi dogfen heddiw yn amlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i addysg plant sy’n derbyn gofal.

Mae’r ddogfen yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn derbyn yr un cyfleoedd â’u cyfoedion yn y dosbarth.

Caiff sawl ymrwymiad penodol eu nodi gan gynnwys, addewid i wella defnydd o ddata a gwelliant yr hyfforddiant sydd ar gael i sefydliadau sy’n gyfrifol am blant sy’n derbyn gofal.

Yn ôl yr adroddiad cynyddodd y nifer o blant sydd yn derbyn gofal wnaeth dderbyn A*-C yn eu TGAU Cymraeg iaith gyntaf neu Saesneg a Mathemateg, o 17% yn 2015 i 23% yn 2016.

Er hyn mae gwahaniaeth yn parhau rhwng perfformiad academaidd a’u cyfoedion – yn 2016 roedd 37% yn fwy o blant arferol yn derbyn graddau A*-C yn eu TGAU.

Cyfleoedd cyfartal

“Yr hyn sy’n ganolog i’n cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg yw bod pob plentyn yn gwneud yn dda ac yn cyflawni eu potensial, waeth beth fo’u cefndir,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Kirsty Williams.

“Rhaid i blant sy’n derbyn gofal gael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion. Rydyn ni wedi gweld gwelliant gwych yng nghanlyniadau TGAU y rhai hynny sy’n derbyn gofal, ac rydyn ni wedi ymrwymo rhagor o gyllid i ddatblygu hynny.”