Hywel Thomas
Mae ymgyrch ar droed i greu cerflun anferth o’r ddraig goch a’i roi ar ben un o adeiladau uchaf Caerdydd.
Mae Hywel Thomas, sy’n frodor o’r ddinas ac yn gweithio ym myd PR, eisiau gweld cerflun o’r fath er mwyn codi hyder Cymru a chynyddu twristiaeth.
Mae am i’r cerflun fod ar yr un raddfa ag ‘Angel of the North’ yng ngogledd Lloegr sy’n 20 medr o hyd.
Byddai’r cerflun yma yn eistedd ar ben adeilad pencadlys newydd Cyllid a Thollau EM, lle mae disgwyl cyflogi hyd at 3,000 o staff yng nghanol y ddinas, ger datblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd – lle fydd pencadlys newydd y BBC.
Bydd adeilad newydd Cyllid a Thollau EM yn cael ei leoli rhwng pencadlys y BBC a Stadiwm y Principality.
“Yn fy marn i, mae’r datblygiad hwn ar y Sgwâr Canolog yn gyfle unwaith mewn bywyd i wthio’r ddinas ymlaen, rhoi Cymru ar y map a bod yn gatalydd ar gyfer buddsoddi pellach,” meddai Hywel Thomas wrth golwg360.
“Pan edrychais ar y cynlluniau, fe wnes i ddychmygu be’ fyddai fel i dimau oddi cartref sy’n dod i chwarae yn Stadiwm y Mileniwm, chwarae ar y cae a gweld y symbol hynafol yma o Gymru yn edrych arnyn nhw.”
Cefnogaeth David Petersen
Mae Hywel Thomas wedi cysylltu â’r cerflunydd o San Clêr, David Petersen, i holi a fyddai diddordeb ganddo mewn creu’r cerflun.
“Fe gawson ni sgwrs ar y ffôn am dros awr, ac roedd e’n frwdfrydig iawn ac wedi cytuno y byddai ei gwmni yn fodlon gwneud y cerflun yma,” meddai.
“Roedd e gant y cant y tu ôl i’r prosiect, roedd e’n gallu gweld sut fyddai rhywbeth fel hyn yn effeithio, nid dim ond ar Gaerdydd ond ar Gymru.”
Costiodd cerflun Angel of the North £800,000, felly mae Hywel Thomas yn cydnabod na fydd y prosiect yn rhad.
Mae’n dweud y gallai’r arian cael ei godi drwy fuddsoddiad preifat a chodi arian [crowdfund] ar y we.
“Dyw e ddim yn mynd i fod yn rhad, ond, os ydych chi’n meddwl am y symiau o arian sy’n cael ei fuddsoddi yn y Sgwâr Canolog, dyw e ddim yn swm mawr am rywbeth a fyddai’n cael effaith mor bwerus dw i’n meddwl am flynyddoedd i ddod.”
“Symbol mentrus o genedl hyderus”
“Mae’n bryd i ni godi ein dyheadau ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Dw i’n gwybod weithiau ein bod yn wlad fechan ac weithiau gallwn fod yn llwythol a dadlau dros bwy sy’n cael be’ ac rydym ni yn y pendraw yn cael dim – dydyn ni ddim yn symud ymlaen achos ein bod ni’n dadlau ymhlith ein gilydd,” meddai Hywel Thomas wedyn.
“Dw i’n meddwl y bydd yn symbol mentrus o genedl hyderus a bydd yn symbol eiconig i Gymru a fydd yn gadael etifeddiaeth barhaol i genedlaethau’r dyfodol.”